Stop Online Piracy Act

Mesur yw'r Stop Online Piracy Act (SOPA) neu H.R.3261 a gyflwynwyd yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ar 26 Hydref 2011 gan y Cynrychiolydd Lamar S. Smith, Gweriniaethwr o Texas, a grŵp ddwybleidiol o 12 o gefnogwyr cychwynnol. Mae'r mesur yn ehangu grymoedd awdurdodau gorfodi'r gyfraith a pherchenogion hawlfreintiau yn yr Unol Daleithiau i atal traffig ar-lein o eiddo deallusol a nwyddau ffug. Yn ôl ei gefnogwyr, bydd y mesur yn amddiffyn y farchnad eiddo deallusol ac yn helpu gorfodi deddfau hawlfraint yn enwedig yn erbyn gwefannau tramor. Mae eraill wedi beirniadu'r mesur gan honni y bydd yn sensro'r rhyngrwyd.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Developed by StudentB